Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd/ Zoom

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 23 Medi 2020

Amser y cyfarfod: 13.30
 


290(v5)  

------

 <AI1>

       

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.

 

</AI1>

<AI2>

1       Datganiad gan y Prif Weinidog - Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

(45 mun)

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

(45 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI4>

<AI5>

4       Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

(30 munud)

Gweld y Cwestiynau

</AI5>

<AI6>

5       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Ni dderbynniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.

</AI6>

<AI7>

6       Datganiadau 90 eiliad

(5 munud)

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol

(5 munud)

NDM7388 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020;

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a

3. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

</AI8>

<AI9>

8       Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd

(5 munud)

NDM7389 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; ac

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

</AI9>

<AI10>

9       Cynnig i ethol Aelod i Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

(5 munud)

NDM7390 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

</AI10>

<AI11>

10    Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor y Llywydd

(5 munud)

NDM7391 Elin Jones (Ceredigion)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18B.4:

1. Yn ethol y canlynol yn aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd yn Gadeirydd y Pwyllgor;

b) Llyr Gruffydd, (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); a

c) Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Dai Lloyd (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit).

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

</AI11>

<AI12>

11    Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

(60 munud)

NDM7385 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020.

</AI12>

<AI13>

12    Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Addysg Uwch

(60 munud)

NDM7387 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi.

2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.

3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau.

4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig.

5. Yn nodi na fu gostyngiad yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y pandemig ar eu hastudiaethau.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws ar eu cyrsiau;

b) sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael mynediad at ddysgu naill ai drwy fod yn bresennol neu, os bydd cyfyngiadau COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o ffrydio byw; ac

c) mynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion.

 

Gwelliant 1 Siân Gwenllian (Arfon)

Dileu pwynt 4 ac ailrifo'n unol â hynny.  

 

Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.

Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein.

Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel.

Os derbynnir Gwelliant 2, bydd Gwellianau 3 a 4 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 3 Siân Gwenllian (Arfon)

Dileu is-bwynt 6(a) a rhoi yn ei le:

sicrhau bod gan y sector addysg uwch ddigon o adnoddau i alluogi sefydliadau i barhau i gynnal safonau a pharhau i ehangu mynediad;

Gwelliant 4 Siân Gwenllian (Arfon)

Cynnwys is-bwynt 6(b) newydd ac ailrifo'n unol â hynny:

gweithio gyda'r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol a chynaliadwy i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, yn enwedig i ddysgwyr difreintiedig, ar yr adeg heriol hon;

Canllawiau ar weithredu’n ddiogel mewn addysg ôl-16 o fis Medi 2020 ymlaen

 

 

</AI13>

<AI14>

13    Dadl Plaid Cymru - Ail Gartrefi

(60 munud)

NDM7386 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.

2. Yn croesawu’r camau y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref;

b) galluogi cyflwyno cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy;

c) diweddaru’r gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;

d) dyblu uchafswm premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;

e) dyblu cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;

f) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amodau marchnad leol arnynt;

g) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a

h) edrych o’r newydd ar y diffiniad dŷ fforddiadwy.

Deddf Tai (Cymru) 2014

Gwelliant 1 – Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol, gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i  diwygio ac archwilio'r opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;; 

b) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac

c) egluro beth yw cartref fforddiadwy.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethu annomestig.  

Os derbynnir Gwelliant 1, caiff Gwelliannau 2 a 3 yn cael eu ddad-ddethol

 

Gwelliant 2 Rebecca Evans (Gwyr)

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod her ail gartrefi - a thai gwag - i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.   

2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 

3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.

4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.

5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.

[Os derbynnir Gwelliant 2, caiff Gwelliant 3 ei dad-ddethol]

 

Gwelliant 3 Neil McEvoy (Canol De Cymru)

Yn is-bwynt 3(g), ar ôl 'chymdeithasau tai' ychwanegu:

', drwy brynu gorfodol os oes angen,'

 

</AI14>

<AI15>

14    Cyfnod pleidleisio

 

</AI15>

<AI16>

</AI16>

<AI17>

15    Dadl Fer

(30 munud)

NDM7377 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Adeiladu'r sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru

</AI17>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Medi 2020

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>